Ceidwadwyr Cymreig yn Senydd Ewrop
Dr Kay Swinburne ASE

Hwb i ffermwyr llaeth Cymru, Strasbwrg, 15.02.12

 
 
Fe groesawodd yr ASE Ceidwadol Cymreig, Kay Swinburne, y mesurau newydd a gafodd eu pleidleisio arnynt yn Senedd Ewrop, fydd yn rhoi rhagor o bwer bargeinio i ffermwyr llaeth a rhagor o reolaeth dros y pris maen nhw’n ei dderbyn am eu llaeth.
 
Fe basiwyd y ddeddfwriaeth fel adwaith i bryderon niferus fod pwer trafod y cwmnïoedd bwyd mawr yn gyrru prisiau i lawr i lefelau oedd yn bygwth dyfodol rhai o ffermydd llaeth Cymru.
 
Yn bwysig iawn, fe gaiff Sefydliadau Cynhyrchu eu cydnabod o hyn ymlaen gan ddeddfwriaeth yr UE, fydd yn caniatáu iddynt drafod pris ar gyfer eu llaeth hyd at 33% o gynhyrchiant cenedlaethol ynteu 3.5% o gynhyrchiant yr UE gyfan. O ganlyniad, fe fydd gan y ffermwyr safle gref yn y tsiaen cyflenwi llaeth fydd yn eu galluogi i drafod ar gyfer pris gwell y litr ar gyfer eu llaeth.
 
Yn olaf, fe gaiff y ffaith nad oes cytundebau ysgrifenedig yn bodoli sylw, ac fe fydd gan y llywodraethau cenedlaethol opsiwn o gyflwyno cytundebau gorfodol.
 
Fe ddywedodd Kay:
 
 
"Mae ffermwyr llaeth Cymru wedi bod yn cael dêl wan am bris eu llaeth am yn rhy hir ac mae’r sefyllfa ariannol ansicr wedi cyfrannu at hyn. Mae’n bur annheg fod ffermwyr llaeth Cymru’n derbyn 3c ar gyfartaledd yn llai y litr na chyfartaledd yr UE ac mae’n bryd i ni newid hyn.
 
 
“Rydw i’n falch gweld fod yr UE yn ymwybodol o’r hyn mae ffermwyr llaeth yn ei brofi ledled Ewrop, gyda ffermwyr Cymru’n cael dêl waeth na’u cydweithwyr ledled yr UE. Er nad ydyw’n datrys bob problem mae ffermwyr llaeth yn ei hwynebu, mae’r ddeddfwriaeth hon yn ddechrau da tuag at unioni’r fantol pan fyddant yn trafod pris llaeth.
 
 
“Erbyn hyn, mae gan bob gwlad yn yr UE yr opsiwn i gyflwyno cytundebau. Fe fyddwn ni’n ymbilio ar i Lywodraeth Cymru wneud hyn, yn enwedig o ystyried fod y nifer o ffermwyr llaeth yng Nghymru wedi haneru o fewn y degawd diwethaf. Fe fydd y cam hwn hefyd yn cynnig y sefydlogrwydd maen nhw wedi bod yn gofyn amdano am yn hir iawn.
 
“Dyma gam mawr i’r cyfeiriad iawn, ac yr wyf yn siwr y caiff ei groesawu gan ffermwyr llaeth ledled Cymru.”
 
Ymuno â’n Rhestr Bostio Cadw mewn Cysylltiad
Ceidwadwyr Cymreig
04/12/2013

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd heddiw wedi rhoi statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Ewropeaidd (PGI) i’r Pembrokeshire Early Potato adnabyddus o Orllewin Cymru.

Roedd y Pembrokeshire Early Potato yn un o dri chynnyrch fferm o ansawdd yn unig i dderbyn statws PGI heddiw.

Mae cynlluniau PGI yr UE yn diogelu enwau cynnyrch rhag cael eu camddefnyddio ac mae dros 1,200 o gynhyrchion eisoes yn cael eu diogelu o dan y cynlluniau hyn .

Wrth drafod y cyhoeddiad hwn gan y Comisiwn Ewropeaidd heddiw, fe ddywedodd Dr Kay Swinburne ASE - sy'n hanu o Orllewin Cymru:

"Rwyf wrth fy modd o weld bod y cais hwn i gael “Pembrokeshire Earlies” wedi’i ychwanegu at y gofrestr o gynnyrch PGI wedi cael ei gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd heddiw.

"Mae ennill y statws mawreddog hwn yn gydnabyddiaeth glir o ansawdd uchel y cynnyrch nodedig rydym yn parhau i’w gynhyrchu yng Nghymru. Mae Pembrokeshire Early Potatoes yn llawn haeddu eu lle ochr yn ochr â'r cynnyrch adnabyddus o bob rhan o'r Undeb Ewropeaidd sydd eisoes yn ymddangos ar gofrestr y PGI."

26/11/2013


Roedd Kay yn hapus iawn i gynnal y digwyddiad hwn i ddathlu Addysg Uwch, Gwyddoniaeth ac Arloesedd yng Nghymru neithiwr yn Senedd Ewrop.  Mae'r digwyddiad yn adeiladu ar "Ddadansoddiad Strategol y Sector Addysg Uwch yng Nghymru, Asedau Nodedig" y Cyngor Prydeinig. Fe siaradodd nifer o arbenigwyr i rannu eu barn ar AU Cymru yn ystod y digwyddiad ac ar sut y gallai ddatblygu yn y dyfodol.

20/11/2013


Cyn y bleidlais ar ‘Adroddiad Fox-Hafner’ ar leoli Senedd Ewrop mewn un lleoliad yn unig, mae Kay a’r ASEau Ceidwadol eraill o’r DU, yn teimlo ei bod hi’n iawn i dynnu sylw at y ffaith fod gweithredu Senedd Ewrop mewn dau le yn costio £928,000,000. Ers cael ei hethol i Senedd Ewrop yn 2009, mae Kay wedi cefnogi dod â chyfarfodydd Senedd Ewrop yn Strasbwrg i ben, rhywbeth fyddai’n arbed arian sylweddol i’r trethdalwyr.  

20/11/2013


Roedd Kay wrth ei bodd i gwrdd â Malala Yousafzai, a ddyfarnwyd Gwobr Hawliau Dynol Sakharov yr UE yn Senedd Ewrop heddiw.
 

Yn dilyn araith Malala yn Senedd Ewrop heddiw, fe ddywedodd Kay, “Rhoddodd Malala araith ysbrydoledig i Aelodau Senedd Ewrop heddiw. Rydw i’n fam i blant ifanc, a gobeithio y byddan nhw hefyd yn anelu at gyrraedd ei chyrhaeddiadau hi. Mae Malala yn fenyw ifanc eithriadol sy wedi gorchfygu adfyd oherwydd ei chymeriad cryf a’i chred gwaelodol mewn hawliau’r unigolyn i fwynhau ac I elwa ar addysg.”

12/11/2013

Roedd Kay yn hapus iawn i gwrdd ag aelodau o Grwp Ymchwil Uwch-weithgynhyrchu yn Senedd Ewrop, Brwsel, sef un o'r pedwar grwp a sefydlwyd mewn meysydd ymchwil allweddol i Gymru, i fanteisio ar gronfeydd ymchwil yr UE. Aeth cynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd, Bangor, Abertawe a'r Drindod Dewi Sant i Frwsel i ddatblygu'r perthynas. 
23/10/2013
Mae Dr Swinburne wedi rhoi ei chefnogaeth i’r argymhellion a wnaed mewn adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan nifer o arweinwyr busnes, cyn cyfarfod arweinwyr Cyngor Ewrop yfory, sy’n tanlinellu pwysigrwydd gwaredu rhwystrau i gystadleurwydd busnes yn Ewrop a chael gwared ar ddeddfwriaeth feichus gan dorri tâp coch yr UE.


Y llynedd, fe ofynnodd Dr Swinburne i fusnesau Cymru ddweud wrth Gomisiwn Ewrop pa reoleiddiadau gor-feichus yr hoffen nhw eu gwaredu, gan ysgrifennu at fusnesau bychain ledled Cymru a thrwy ofyn i fusnesau Cymru ledled Cymru i ddweud wrthi hi am eu problemau tâp coch.
08/10/2013
Dydy sigaréts electronig
ddim bellach yn wynebu cael eu gwaredu o’r silffoedd gan yr UE ar ôl i’r ASEau Ceidwadol ddiwygio deddfwriaeth yr UE ar labelu tybaco yn llwyddiannus heddiw.


Fe arweiniodd yr ASEau Ceidwadol y gwelliant i drechu cynigion a fyddai wedi dosbarthu e-sigaréts yn gynhyrchion meddyginiaethol, sy'n golygu y byddai'n rhaid iddynt gael gweithdrefn awdurdodi rhy feichus a chostus, a fyddai'n mynd y tu hwnt i'r gweithdrefnau ar gyfer cynhyrchion tybaco traddodiadol... (Darllenwch ragor dan 'Erthyglau')



18/09/2013
Mae’r ASE Ceidwadol Cymreig Kay Swinburne wedi bod yn eistedd i lawr gydag arweinwyr ym maes biotechnoleg Ewrop i ddewis y pum ymgeisydd gorau i gystadlu ar gyfer yr EuropaBio Most Innovative EU Biotech SME Award eleni.

Fel aelod o’r pwyllgor barnu, mae Kay unwaith eto yn cefnogi’r wobr EuropaBio, sydd wedi denu ymgeiswyr o’r tri sector biotechnoleg – gofal iechyd, diwydiannol ac amaethyddol, ledled yr UE... (Darllenwch ragor o dan 'Erthyglau')
11/09/2013


Fe groesawyd pleidlais heddiw yn Senedd Ewrop gan yr ASE Ceidwadol Cymreig Dr Kay Swinburne fel galwad i ddeffro yn y frwydr i arbed ieithoedd Ewrop sydd mewn perygl.

Fe gefnogodd yr ASEau adroddiad yn Strasbwrg sy’n alw ar i lywodraethau ledled yr UE i ddatblygu cynlluniau gweithredu i annog amrywiaeth ieithyddol barhaus.

Mae’r adroddiad, a ysgrifennwyd gan yr ASE Corsaidd, François Alfonsi, hefyd yn dweud y dylai llywodraethau fod yn “fwy sylwgar” i fygythiadau a allai arwain at ddifodiant ieithoedd.

Mae Dr Swinburne, a oedd yn gysgod adroddwr yr adroddiad, wedi dadlau y gellid ystyried y Gymraeg yn enghraifft cadarnhaol o adfywiad iaith y dylai cymunedau ledled yr UE ei ddilyn... (Darllenwch ragor o dan 'Erthyglau')

Cysylltu â ni
Dr Kay Swinburne ASE
Tŷ Rhymni
Copse Walk
Parc Busnes Porth Caerdydd
Caerdydd
CF23 8RB

Ffôn: 029 20628 685
kayswinburnemep@welshconservatives.com

Plaid Wleidyddol Genedlaethol: Y Blaid Geidwadol
Grŵp Ewropeaidd: Grŵp Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewrop (CDE)

European Conservative and Conformist Group
© Hawlfraint Kay Swinburne 2013 – Cedwir pob hawl