Ceidwadwyr Cymreig yn Senydd Ewrop
Dr Kay Swinburne ASE

KAY SWINBURNE ASE: Cyflawni dros Gymru yn Ewrop, 05.03.11

KAY SWINBURNE ASE: Cyflawni dros Gymru yn Ewrop
 
Yn annerch Fforwm y Gwanwyn yng Nghynhadledd Cymru, fe ddywedodd, Kay Swinburne ASE, Aelod Ceidwadol Cymreig Senedd Ewrop:
Bore Da, Gynhadledd
 
Fel Aelod Senedd Ewrop Ceidwadol dros Gymru, mae’n fraint eich croesawu chi i gyd o ledled y Deyrnas Unedig i brifddinas Cymru.
 
Dyw hi ddim yn teimlo’n hir iawn ers i fi fod yn sefyll ar y llwyfan hwn yn annerch y gynhadledd yn dilyn ein llwyddiant yn yr etholiadau Ewropeaidd, etholiad lle daeth y Ceidwadwyr Cymreig yn gyntaf yng Nghymru am y tro cyntaf o fewn cof.
 
Ers cael fy ethol, mae’r misoedd wedi hedfan heibio ac mae’r gromlin dysgu wedi bod yn arbennig o serth gan fod ein plaid wleidyddol a’n grwp yn Ewrop wedi gofyn i fi arwain y gwaith deddfol ar faterion economaidd.
 
Dyma her enfawr yn ystod cyfnod sy’n dilyn yr argyfwng ariannol gwaethaf erioed a gobeithio y bydd fy nghefndir ariannol yn fy nghaniatáu i gwrdd a’r her hon.
 
Beth bynnag fo’ch teimladau tuag at Ewrop, mae’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd yn brysur iawn yn deddfu i’r dyfodol ar yr hyn fydd yn effeithio arnon ni yma yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.  Fodd bynnag, yr unig ffordd i sicrhau bod y Rheoliadau yn cyrraedd y llywodraethau priodol i’w gweithredu mewn ffurf addas yw trwy ymgymryd â’r broses o’r dechrau hyd y diwedd. Dyma’r hyn yr ydym ni yng Ngrwp Diwygwyr a Cheidwadwyr Ewrop yn ceisio ei wneud, ac er gwaethaf tawelwch y cyfryngau ar lawer o’r materion hynod bwysig hyn, dyna’r hyn rydym yn llwyddo i’w wneud ar draws ystod eang o bolisïau.  Boed hi’n ymwneud â deilliadau, gwastraffu pysgod, neu ar rheolau gofal iechyd trawsffiniol, neu ar drafod maint cyllid yr UE ei hun – mae’r Aelodau Ceidwadol yn Senedd Ewrop yn ceisio cyflawni er eich mwyn chi, ein hetholwyr.
 
Fodd bynnag, hoffwn i drafod ein heconomi yma yn y Deyrnas Unedig yn y gynhadledd heddiw, gan obeithio amlygu ffolineb Prif Weinidog Cymru a wnaeth geisio esbonio’r cwymp o dau y cant yng nghynnyrch crynswrth gwladol Cymru yn ganlyniad o etifeddiaeth yr wythdegau.
 
Rwy’n methu’n llwyr gweld sut mae’r cyfnod hwn yn hanes ein gwlad ag unrhyw beth i’w wneud a’r ffigyrau cynnyrch mewnwladol crynswth tri degawd yn hwyrach.
 
Er cymhariaeth, rhwng mil naw naw wyth  a dwi fel ac wyth , fe lwyddodd poblogaeth debyg yn Slofenia Gomiwnyddol i wella eu GDP o beth o dan saith deg y cant  o gyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd i fwy na naw deg y cant o gyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd.  Yn ystod yr un cyfnod, mae Cymru wedi aros ar fwy neu lai yr un lefel. Mae hyn yn wir er gwaetha’r ffaith bod Cymru wedi derbyn £tair biliwn o arian ychwanegol o’r Undeb Ewropeaidd yn ystod y deng mlynedd diwethaf.  Ni all hyn fod yn iawn.
 
Mae gan Gymru, yn fwy na’r rhan fwyaf o ranbarthau’r DU, fuddiant breintiedig yng nghyllideb yr Undeb Ewropeaidd.  Mae yn y gyllideb gyfoes ddau beth sy’n gyfrifol am bewar deg a phedwar deg chwech y can  o gyllideb yr Undeb Ewropeaidd, sef y polisi amaethyddol cyffredin a’r cronfeydd cydgyfeirio a chystadleuol. 
 
Mae Cymru yn derbyn symiau enfawr o gronfeydd cydgyfeirio’r Undeb Ewropeaidd gan, er ein cywilydd, rydym yn gymwys ar gyfer cyfres arall o ariannu lefel uwch, ynghyd â swm llai o arian cystadleuol ac, wrth gwrs, mae ein cymunedau gwledig yn ddibynnol iawn ar CAP effeithiol sy’n cydnabod y gwahaniaethau unigryw yng Nghymru.
 
Tra bod llawer o frwdfrydedd mewn rhannau o’r Undeb Ewropeaidd, ynghyd â Tsieina a’r India i enwi ond cwpl o wledydd, mae llawer o frwdfrydedd ac egni yn cael eu cyfeirio at brosiectau hirdymor a strategaethau ariannu – y geiriau hollbwysig yw ymchwil a datblygiad, arloesedd a chystadleuaeth yn y farchnad fyd-eang – mae’n debyg mai edrych yn ôl yw’r tueddiad yng Nghymru, yn enwedig pan y daw at angen a defnydd o gronfeydd Undeb Ewropeaidd.
 
Dyna’r cyfan y gall Llywodraeth y Cynulliad ei wneud yw canolbwyntio ar yr arian mae’n ei gael am fod yn un o’r rhanbarthau sy’n perfformio gwaethaf yn Ewrop – fe groesawodd Carwyn Jones yr ystadegau economaidd oedd yn dangos pa mor wael roedd Cymru’n ei wneud gan fod y ffigyrau wedi rhoi sgôp i Lywodraeth y Cynulliad ddadlau dros dderbyn rhagor o arian o Ewrop. Dyma gwestiwn diweddar a ofynnwyd gan y Western Mail - "A fyddai fod yn gymwys ar gyfer rhagor o arian o Ewrop fod yn warth cenedlaethol?” fe ellir ateb y cwestiwn hwn trwy ddweud y Byddai! Mae Cymru wedi cael ei gadael i lawr gan Lywodraeth y Cynulliad sy wedi methu i ddefnyddio’r arian yn effeithiol, wedi methu i godi’n heconomi i fod yn gyfystyr â chyfartaledd yr Undeb Ewropeaidd sy wedi’i hehangu ac wedi methu pobl Cymru.  Fe ddylai fod cywilydd arnyn nhw.
 
Yn ystod cyfnod o ddiffygion cyhoeddus mwyfwy, ar ôl i’r llywodraeth flaenorol wario popeth o fewn ei gallu, ni all Cymru ddisgwyl parhau i ledaenu’i chwedl o ddadfeiliad diwydiannol a thlodi trefol a disgwyl derbyn arian i’w wario ar brojectau nad ydynt yn creu cyfoeth – projectau cymdeithasol buddiol, efallai, ond dydy hyn yn bendant ddim yn adfywio’n heconomi Cymreig.
 
Mae pwyllgor Economaidd y Senedd wedi bod yn edrych ar fesurau sydd eu hangen y tu mewn i’r Undeb Ewropeaidd i ysgogi twf i’r dyfodol. Mae’r rhain wedi cynnwys mynediad i gyfalaf fenter, defnydd hyblyg o arian cydgyfeiradol ar gyfer rhwydwaith mewnol, benthyg arbenigedd yr EIB trwy ariannu projectau mawr a chymryd camau i helpu cystadleurwydd gwahanol ranbarthau. Mae gan Gymru bob un o’r meddyginiaethau hyn wrth law. Trwy’r corff Cyllid Cymru, yr ydym wedi cael mynediad i gronfeydd cyllid menter i’n cymuned fusnes – er, ceisiwch ffeindio cwmnïoedd Cymreig sy’n derbyn nawdd gan eu cronfeydd buddsoddi?
 
Mae ein busnesau Cymreig yn cwyno’n barhaol am beidio â chael eu cynnwys yn y pot arian cydgyfeiriadol ac yn waeth fyth mae Llywodraeth y Cynulliad wedi methu i ddefnyddio gweithgareddau’r EIB i ariannu projectau rhwydwaith mewnol yng Nghymru.
 
O ystyried cyflwr ansicr economi Cymru, gobeithio’n arw pan fo cyllid yr Undeb Ewropeaidd yn cael ei thrafod dros y blynyddoedd i ddod na fydd y projectau sy’n werthfawr yn mynd heb gyllid – fodd bynnag mae llawer o ddarnau o strategaeth Ewrop sy wedi’u canolbwyntio’n bositif i annog twf na fyddai’n cael eu labelu’n ‘handouts’.  Mae’r rhain wedi’u hanelu at ddiwydiannau newydd, ymchwil ac arloesedd – ond mae Llywodraeth y Cynulliad wedi profi’i hun yn hynod annigonol mewn helpu’n cwmnïoedd, sy’n ceisio torri tir newydd, i gael mynediad i’r arian yma.
 
Mae’r  saith fed Fframwaith ar gyfer Ymchwil a Datblygiad Technegol yn un o’r cynlluniau hyn. Efallai eich bod yn gofyn beth ddigwyddodd i’r chwe rhaglen gynt. – Fe lwyddodd Cymru i gael dim ond dau pwynt chwech y can o’r holl arian a aeth i’r Deyrnas Unedig, a thra bod dau ddeg chwech miliwn ewro yn swnio fel swm mawr o arian, pan ystyriwch chi fod y Deyrnas Unedig fel cyfanwaith wedi derbyn un pwynt tri pump biliwn ewro rydych chi’n sylweddoli cyn lleied mae Cymru wedi’i dderbyn ac yn bwysicaf oll, faint yr ydym yn ei golli.
 
Yn sylfaenol, fe anelir yr arian sydd ar gael trwy Fframwaith 7 at leoedd fel Cymru.  Fe all pum ddeg y cant o’r arian a ddefnyddir gan gwmnïoedd mawr ar brojectau ymchwil ddod o’r Undeb Ewropeaidd ond ar gyfer mentrau bychain a chanolig eu maint, mae’r ffigwr hwn yn saith deg pump y cant!
 
Mae rhan fwya o fusnesau Cymru yn fentrau bychain a chanolig eu maint, fe allai hyn fod yn fonws enfawr trwy eu galluogi nhw i fuddsoddi mewn technoleg newydd ac i ddatblygu cynnyrch newydd yn ogystal â magu partneriaethau ar draws yr Undeb Ewropeaidd a chaniatáu ehangiad i farchnadoedd newydd.
 
 
Mae busnesau bychain yn cyfrngi incwm o dros pedwar deg biliwn o bunnau i economi Cymru a chyflogi dros chwech chan mil o bobl ledled Cymru.
 
Ond ble mae’r help iddyn nhw?
 
Un o’r pethau sy’n uno Aelodau Sennedd Ewrop au ar draws y pleidiau Gwleidyddol Ewropeaidd yw helpu Mentrau Bychain a Chanolig eu maint – mae’n ddarn o jargon sy’n troi o fod yn derm yn unig, i fod yn weithrediad yn ffurf y Small Business Act.
 
Tra bod Ewrop yn canolbwyntio ar dorri tâp coch a chefnogi mentrau bychain, mae’n amlwg bod Llywodraeth y Cynulliad wedi disgyn ar ei hôl hi.
 
O dan adolygiad diweddar o’r rheolau caffaeliad cyhoeddus, fe gynigiodd y Comisiwn ddiwygiadau fel y bydd busnesau llai yn gallu cael ragor o gytundebau.  Pe tasai Llywodraeth y Cynulliad yn diwygio’i systemau caffaeliad i gydfynd â’r cynigion hyn, fe fyddai’n cael effaith uniongyrchol ar Fentrau Bychain a Chanolig eu maint yng Nghymru ac fe fyddai’n helpu i fagu bywioldeb economaidd yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn.
 
Mae’r Ceidwadwyr yn Senedd Ewrop wedi ei gwneud yn flaenoriaeth iddynt stopio niweidio deddfwriaeth ac i hyrwyddo mesurau positif i helpu’r Mentrau Bychain sy’n asgwrn cefn economi Cymru. Maen nhw’n darparu swyddi ac hyfforddiant i genedlaethau o deuluoedd Cymreig – maen nhw angen ein cefnogaeth.
 
Fe alla i ond obeithio y bydd cwmnïoedd bach a mawr yng Nghymru’n parhau i ymwneud â’r Undeb Ewropeaidd a gweithio i sicrhau y defnyddir cronfeydd o Ewrop yn gyfrifol i arloesi ac i ddatblygu dulliau newydd i ganiatáu i Gymru gystadlu ar reng flaen ceisiadau Ewrop i ysgogi twf.
 
Mae gan Gymru lwyth o ddynion a merched busnes ac mae’n rhaid harnesu ac annog eu syniadau heb eu trwytho nhw mewn rheoleidd.  Mae Mentrau Bychain a Chanolig eu maint yn allweddol mewn adfywio economi Cymru, y DU ac Ewrop ac fe fydda i’n parhau i weithio gyda’m cydweithwyr i sicrhau bod y Comisiwn yn deall yn union beth sydd eisiau.
 
Fe all Cymru fwynhau dyfodol cryf ac rydw i credu mai’r Ceidwadwyr Cymreig yw’r unig blaid all gyflawni’r uchelgais hon!  Ewch amdani!
Ymuno â’n Rhestr Bostio Cadw mewn Cysylltiad
Ceidwadwyr Cymreig
04/12/2013

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd heddiw wedi rhoi statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig Ewropeaidd (PGI) i’r Pembrokeshire Early Potato adnabyddus o Orllewin Cymru.

Roedd y Pembrokeshire Early Potato yn un o dri chynnyrch fferm o ansawdd yn unig i dderbyn statws PGI heddiw.

Mae cynlluniau PGI yr UE yn diogelu enwau cynnyrch rhag cael eu camddefnyddio ac mae dros 1,200 o gynhyrchion eisoes yn cael eu diogelu o dan y cynlluniau hyn .

Wrth drafod y cyhoeddiad hwn gan y Comisiwn Ewropeaidd heddiw, fe ddywedodd Dr Kay Swinburne ASE - sy'n hanu o Orllewin Cymru:

"Rwyf wrth fy modd o weld bod y cais hwn i gael “Pembrokeshire Earlies” wedi’i ychwanegu at y gofrestr o gynnyrch PGI wedi cael ei gymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd heddiw.

"Mae ennill y statws mawreddog hwn yn gydnabyddiaeth glir o ansawdd uchel y cynnyrch nodedig rydym yn parhau i’w gynhyrchu yng Nghymru. Mae Pembrokeshire Early Potatoes yn llawn haeddu eu lle ochr yn ochr â'r cynnyrch adnabyddus o bob rhan o'r Undeb Ewropeaidd sydd eisoes yn ymddangos ar gofrestr y PGI."

26/11/2013


Roedd Kay yn hapus iawn i gynnal y digwyddiad hwn i ddathlu Addysg Uwch, Gwyddoniaeth ac Arloesedd yng Nghymru neithiwr yn Senedd Ewrop.  Mae'r digwyddiad yn adeiladu ar "Ddadansoddiad Strategol y Sector Addysg Uwch yng Nghymru, Asedau Nodedig" y Cyngor Prydeinig. Fe siaradodd nifer o arbenigwyr i rannu eu barn ar AU Cymru yn ystod y digwyddiad ac ar sut y gallai ddatblygu yn y dyfodol.

20/11/2013


Cyn y bleidlais ar ‘Adroddiad Fox-Hafner’ ar leoli Senedd Ewrop mewn un lleoliad yn unig, mae Kay a’r ASEau Ceidwadol eraill o’r DU, yn teimlo ei bod hi’n iawn i dynnu sylw at y ffaith fod gweithredu Senedd Ewrop mewn dau le yn costio £928,000,000. Ers cael ei hethol i Senedd Ewrop yn 2009, mae Kay wedi cefnogi dod â chyfarfodydd Senedd Ewrop yn Strasbwrg i ben, rhywbeth fyddai’n arbed arian sylweddol i’r trethdalwyr.  

20/11/2013


Roedd Kay wrth ei bodd i gwrdd â Malala Yousafzai, a ddyfarnwyd Gwobr Hawliau Dynol Sakharov yr UE yn Senedd Ewrop heddiw.
 

Yn dilyn araith Malala yn Senedd Ewrop heddiw, fe ddywedodd Kay, “Rhoddodd Malala araith ysbrydoledig i Aelodau Senedd Ewrop heddiw. Rydw i’n fam i blant ifanc, a gobeithio y byddan nhw hefyd yn anelu at gyrraedd ei chyrhaeddiadau hi. Mae Malala yn fenyw ifanc eithriadol sy wedi gorchfygu adfyd oherwydd ei chymeriad cryf a’i chred gwaelodol mewn hawliau’r unigolyn i fwynhau ac I elwa ar addysg.”

12/11/2013

Roedd Kay yn hapus iawn i gwrdd ag aelodau o Grwp Ymchwil Uwch-weithgynhyrchu yn Senedd Ewrop, Brwsel, sef un o'r pedwar grwp a sefydlwyd mewn meysydd ymchwil allweddol i Gymru, i fanteisio ar gronfeydd ymchwil yr UE. Aeth cynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd, Bangor, Abertawe a'r Drindod Dewi Sant i Frwsel i ddatblygu'r perthynas. 
23/10/2013
Mae Dr Swinburne wedi rhoi ei chefnogaeth i’r argymhellion a wnaed mewn adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan nifer o arweinwyr busnes, cyn cyfarfod arweinwyr Cyngor Ewrop yfory, sy’n tanlinellu pwysigrwydd gwaredu rhwystrau i gystadleurwydd busnes yn Ewrop a chael gwared ar ddeddfwriaeth feichus gan dorri tâp coch yr UE.


Y llynedd, fe ofynnodd Dr Swinburne i fusnesau Cymru ddweud wrth Gomisiwn Ewrop pa reoleiddiadau gor-feichus yr hoffen nhw eu gwaredu, gan ysgrifennu at fusnesau bychain ledled Cymru a thrwy ofyn i fusnesau Cymru ledled Cymru i ddweud wrthi hi am eu problemau tâp coch.
08/10/2013
Dydy sigaréts electronig
ddim bellach yn wynebu cael eu gwaredu o’r silffoedd gan yr UE ar ôl i’r ASEau Ceidwadol ddiwygio deddfwriaeth yr UE ar labelu tybaco yn llwyddiannus heddiw.


Fe arweiniodd yr ASEau Ceidwadol y gwelliant i drechu cynigion a fyddai wedi dosbarthu e-sigaréts yn gynhyrchion meddyginiaethol, sy'n golygu y byddai'n rhaid iddynt gael gweithdrefn awdurdodi rhy feichus a chostus, a fyddai'n mynd y tu hwnt i'r gweithdrefnau ar gyfer cynhyrchion tybaco traddodiadol... (Darllenwch ragor dan 'Erthyglau')



18/09/2013
Mae’r ASE Ceidwadol Cymreig Kay Swinburne wedi bod yn eistedd i lawr gydag arweinwyr ym maes biotechnoleg Ewrop i ddewis y pum ymgeisydd gorau i gystadlu ar gyfer yr EuropaBio Most Innovative EU Biotech SME Award eleni.

Fel aelod o’r pwyllgor barnu, mae Kay unwaith eto yn cefnogi’r wobr EuropaBio, sydd wedi denu ymgeiswyr o’r tri sector biotechnoleg – gofal iechyd, diwydiannol ac amaethyddol, ledled yr UE... (Darllenwch ragor o dan 'Erthyglau')
11/09/2013


Fe groesawyd pleidlais heddiw yn Senedd Ewrop gan yr ASE Ceidwadol Cymreig Dr Kay Swinburne fel galwad i ddeffro yn y frwydr i arbed ieithoedd Ewrop sydd mewn perygl.

Fe gefnogodd yr ASEau adroddiad yn Strasbwrg sy’n alw ar i lywodraethau ledled yr UE i ddatblygu cynlluniau gweithredu i annog amrywiaeth ieithyddol barhaus.

Mae’r adroddiad, a ysgrifennwyd gan yr ASE Corsaidd, François Alfonsi, hefyd yn dweud y dylai llywodraethau fod yn “fwy sylwgar” i fygythiadau a allai arwain at ddifodiant ieithoedd.

Mae Dr Swinburne, a oedd yn gysgod adroddwr yr adroddiad, wedi dadlau y gellid ystyried y Gymraeg yn enghraifft cadarnhaol o adfywiad iaith y dylai cymunedau ledled yr UE ei ddilyn... (Darllenwch ragor o dan 'Erthyglau')

Cysylltu â ni
Dr Kay Swinburne ASE
Tŷ Rhymni
Copse Walk
Parc Busnes Porth Caerdydd
Caerdydd
CF23 8RB

Ffôn: 029 20628 685
kayswinburnemep@welshconservatives.com

Plaid Wleidyddol Genedlaethol: Y Blaid Geidwadol
Grŵp Ewropeaidd: Grŵp Ceidwadwyr a Diwygwyr Ewrop (CDE)

European Conservative and Conformist Group
© Hawlfraint Kay Swinburne 2013 – Cedwir pob hawl